Dosbarthiad a bioamrywiaethCasglu data – techneg dal/ail-ddal (Haen Uwch)
Bioamrywiaeth yw cyfanswm nifer ac amrywiaeth o rywogaethau mewn ardal benodol. Gellir ei hastudio trwy ddefnyddio technegau samplu, a gall organebau gael eu dosbarthu yn ôl nodweddion morffolegol.
Casglu data – techneg dal/ail-ddal (Haen uwch yn unig)
Dydy'r dull cwadradau ddim yn ymarferol wrth geisio amcangyfrif poblogaeth anifeiliaid mewn ardal. Mae rhai anifeiliaid yn symud yn gyflym ac yn gallu cael eu dychryn wrth i gwadradau lanio wrth eu hymyl.
Ffordd well o amcangyfrif maint poblogaeth rhywogaeth anifail yw’r dull dal-marcio-ail-ddal:
dal anifeiliaid, ee gan ddefnyddio pydewau maglu
eu cyfri a’u marcio nhw mewn ffordd ddiberygl, anamlwg ac yna eu rhyddhau nhw
defnyddio'r maglau eto rai dyddiau'n ddiweddarach i ail-ddal sampl o anifeiliaid
cofnodi niferoedd yr anifeiliaid wedi'u marcio a heb eu marcio sydd wedi'u dal yn y maglau
Ar ôl casglu'r data, gallwn ni ddefnyddio'r hafaliad hwn i amcangyfrif poblogaeth y pryfed mewn cynefin penodol.
\(\frac{{\text{Nifer gafodd eu canfod yn y sampl 1af}}\times{\text{Nifer gafodd eu canfod yn yr 2il sampl}}}{\text{Nifer gafodd eu canfod yn yr 2il sampl oedd wedi'u marcio'n barod}}\)
Question
Figure caption,
Pryfed lludw cyffredin
Mae Alistair yn ceisio amcangyfrif faint o bryfed lludw sy’n byw yng ngwaelod ei ardd. Mae’n eistedd am un awr yn casglu pob pryf lludw mae’n gallu ei weld. Mae’n eu cyfri, mae 26 ohonynt, ac mae’n marcio eu cefn ag ychydig bach o baent gwyn. Mae’n rhyddhau nhw yn ôl yn lle daeth o hyd iddynt. Wythnos yn ddiweddarach, mae’n gwneud yr un peth eto yr un amser o'r dydd am un awr. Mae’n ail-ddal 25 o bryfed lludw, ac mae ychydig bach o baent gwyn ar 15 ohonynt.
Gan ddefnyddio'r hafaliad, beth yw amcangyfrif nifer y pryfed lludw yn yr ardal?
\(\frac{{26}\times{25}}{15}={43}\)
Question
Beth mae'n rhaid i Alistair ei dybio er mwyn ystyried bod y gwerth hwn yn gywir (yn agos at y gwir werth)?
Doedd dim mewnfudo nac allfudo rhwng amser cymryd y samplau.
Doedd y marc ar yr organeb ddim yn niweidio'r organeb yn uniongyrchol, nac yn ei gwneud hi'n haws i ysglyfaethwyr ei gweld hi.