Bioamrywiaeth yw cyfanswm nifer ac amrywiaeth o rywogaethau mewn ardal benodol. Gellir ei hastudio trwy ddefnyddio technegau samplu, a gall organebau gael eu dosbarthu yn ôl nodweddion morffolegol.
Mae miliynau o wahanol rywogaethau ar y blaned. Mae gwyddonwyr yn ceisio grwpio rhywogaethau tebyg gyda'i gilydd fel ei bod hi'n haws eu hadnabod nhw. Mae'r grwpiau'n dechrau'n fawr, a dim ond rhai pethau sy'n debyg rhwng yr organebau ynddynt. Wrth symud i lawr y grwpiau maen nhw'n mynd yn llai ac mae mwy o nodweddion yn gyffredin rhwng yr organebau.
Enw'r grwpiau mwyaf yw'r teyrnasau. Y pum teyrnas yw:
Anifail
Planhigyn
Ffyngau
organebau ungellog (Protoctists)
Bacteria
Teyrnas yr Anifail
Gallwn ni rannu teyrnas yr Anifail eto:
Fertebratau - anifeiliaid ag asgwrn cefn. Mae’r rhain yn cynnwys amffibiaid, mamaliaid, ymlusgiaid, pysgod esgyrnog ac adar.