Dosbarthiad a bioamrywiaethAddasiadau morffolegol ac ymddygiadol
Bioamrywiaeth yw cyfanswm nifer ac amrywiaeth o rywogaethau mewn ardal benodol. Gellir ei hastudio trwy ddefnyddio technegau samplu, a gall organebau gael eu dosbarthu yn ôl nodweddion morffolegol.
Ystyr addasiad morffolegol yw newid strwythurol sy’n ei gwneud yn fwy tebygol i organeb oroesi yn ei chynefin.
Mae corlwynogod yn byw yn y diffeithdir. Eu haddasiad strwythurol yw bod ganddyn nhw glustiau mawr. Mae hyn yn galluogi gwres i adael y corff, sy’n ei helpu i oeri.
I’r gwrthwyneb, mae llwynogod yr Arctig yn byw mewn cynefin oer. Mae ganddyn nhw glustiau llai a chôt o ffwr cynnes er mwyn cadw gwres y corff.
Ystyr addasiad ymddygiadol yw’r modd mae organeb yn ymateb i’w hamgylchedd er mwyn ei helpu i oroesi.
Mae'r pangolin yn anifail nosol, sy’n golygu ei fod yn weithgar yn ystod y nos. Mae'r ymddygiad hwn yn addasiad i’r cynefin tebyg i ddiffeithdir y mae’n byw ynddo. Mae’n rhy boeth i hela yn ystod y dydd felly mae’n hela am fwyd yn ystod y nos.
Mae’r pangolin yn rhywogaeth dan fygythiad. Mae hyn yn golygu bod nifer y pangolinau gwyllt yn lleihau, ac os bydd hyn yn parhau gallan nhw ddiflannu’n llwyr.
Gall bioamrywiaeth a rhywogaethau dan fygythiad gael eu cadw a’u diogelu gan y canlynol:
Y Confensiwn ar y Fasnach Ryngwladol mewn Rhywogaethau Mewn Perygl (CITES)
Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)