'Oglau llosgi mawr' wrth i dân barhau a phobl leol yn 'bryderus'

Tân Bwlch SychnantFfynhonnell y llun, Rita Raweily
  • Cyhoeddwyd

Mae tân mawr yn Sir Conwy yn parhau ddydd Llun wrth i fwy o dywydd poeth daro Cymru, meddai'r gwasanaeth tân.

Mae swyddogion wedi bod yn brwydro tanau ar Fynydd y Dref yng Nghonwy a Bwlch Sychnant ers bore Sul ac wedi bod yn mynd drwy'r nos.

Bu rhaid i drigolion ym mhentref Capel Ulo ger Penmaenmawr adael yr ardal gyda 36 o gartrefi'n cael eu gwagio oherwydd y mwg.

Dywedodd y gwasanaeth tân fore Llun nad ydyn nhw'n rhagweld bod angen gwagio mwy o gartrefi, ond ei bod yn rhy gynnar i ddweud pryd y gall trigolion Capel Ulo ddychwelyd i'w cartrefi.

Mae dwy ysgol leol - Ysgol Capel Ulo ac Ysgol Pencae ym Mhenmaenmawr - ar gau ddydd Llun oherwydd yr amodau.

Mae'r gwasanaethau brys wedi bod yn delio â thanau eraill ym Methesda, ym mynyddoedd Rhinogydd ger pentref Llanbedr yng Ngwynedd, ac ym Mrynffordd yn Sir y Fflint.

Y tân wedi'i weld o loeren ddydd SulFfynhonnell y llun, EU/ESA/Copernicus
Disgrifiad o’r llun,

Y tân wedi'i weld o loeren ddydd Sul

Cafodd y digwyddiad ei ddynodi fel "digwyddiad difrifol" ddydd Sul.

Mae disgwyl i'r tân ddwysáu eto, meddai llefarydd ar ran y gwasanaeth tân, "ond mae ein timau wedi bod yn cynllunio drwy'r nos i baratoi ar gyfer hynny".

Mae tua 200 erw o dir wedi cael eu heffeithio hyd yma.

Dywedodd y gwasanaeth tân hefyd bod "rhai aelodau o'r cyhoedd yn parhau i fynd i grwydro'r mynyddoedd ger ardal Capel Ulo" er gwaethaf rhybuddion i gadw draw.

"Gall mynediad cyhoeddus rwystro gwaith y gwasanaethau brys, creu risgiau diogelwch ychwanegol ac effeithio ar ein gallu i ymateb yn effeithiol."

Dywedodd Cyngor Conwy eu bod yn cefnogi'r bobl sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi.

Esbonion nhw fod rhai wedi llwyddo aros gyda theulu a ffrindiau ond bod y cyngor wedi trefnu llety dros dro ar gyfer nifer.

Gwyndaf PritchardFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Gwyndaf Pritchard fod y fflamau'n symud yn gyflym iawn ac y bydd yn cymryd amser hir i adfer y difrod i fyd natur yr ardal

Dywedodd Gwyndaf Pritchard, sy'n byw yn Nwygyfylchi, "fod 'na oglau llosgi mawr" yn y dyffryn o hyd fore Llun.

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru, dywedodd ei fod wedi cael ei ddeffro gyda'r tŷ yn llawn mwg fore Sul, ac aeth yn y car i weld beth oedd yn digwydd.

"Oedd y dyffryn i gyd yn llawn mwg a'r lludw'n dod i lawr hefyd," meddai.

"Oeddach chi'n gallu gweld y fflamau ar y dyffryn - o'ddan nhw'n symud yn gyflym iawn.

"Mae Sychnant ei hun wedi cal difrod mawr i'r byd natur."

Yr awyr yn oren ym mhentref Capel Ulo fore SulFfynhonnell y llun, Rita Raweily
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa yng Nghapel Ulo fore Sul, gyda'r awyr yn oren a lludw yn yr aer

Mae Mr Pritchard yn gosod tai haf yn yr ardal, ac esboniodd ei fod wedi gallu cynnig un o'i dai yn Nwygyfylchi i deulu pryderus a oedd wedi gorfod gadael eu cartref.

"Maen nhw'n bryderus dros ben," meddai.

Aeth Mr Pritchard ymlaen i ddweud mai "be' sy'n bwysig ydy does 'na ddim llawer o anafiadau".

Ond mae'n poeni'n fawr am yr effaith mae hyn am ei chael ar fyd natur.

"Mi gymerith hi flynyddoedd i ddod â'r ardal yn ôl at ei gilydd," meddai.

"Mae'r gymuned yn agos yma - pawb yn edrych ar ôl ei gilydd - a dyna sy'n bwysig am y gymuned yma."

Rita Raweily
Disgrifiad o’r llun,

Dyw trigolion ddim yn gwybod pryd y gallan nhw fynd adref, meddai Rita Raweily

Un o'r bobl sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi yw Rita Raweily, ac mae'n dweud mai "dyma siŵr o fod dyma'r peth mwyaf erchyll dwi 'di bod trwy".

Dywedodd pan mae eich cartref a'ch man diogel mewn perygl, mae'n eich gadael yn teimlo'n fregus.

Erbyn heddiw mae'n dweud ei bod "wedi blino, a dwi'n emosiynol".

"Ond dwi'n gryf, ac yn dal ati cystal ag y gallaf gan fod angen i fi fod yn gryf ar gyfer fy nheulu a ffrindiau."

Cafodd ei deffro tua 05:15 fore Sul gan sŵn ei chi'n "cyfarth yn wyllt", ond yr hyn sy'n bwysig yw bod pawb yn ddiogel, meddai.

Mae'n dal yn gobeithio cael mwy o wybodaeth yn fuan.

"Mae pawb wedi'u drysu," meddai.

"Gwnaeth y cyngor ddarparu llety mewn gwesty i rai pobl neithiwr, ond dim ond ar gyfer neithiwr.

"Mae pobl yn mynd o gwmpas gyda'u hanifeiliaid anwes ddim yn gwybod pryd fyddan nhw'n cael dychwelyd [adref]."

Tim LloydFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Tim Lloyd fod y tai gyferbyn â'i gartref "ynghanol y mwg"

Dywedodd y cyn-ddiffoddwr tân Tim Lloyd, sy'n byw yn y pentref, ei fod yn cydymdeimlo â'r swyddogion.

"Mae'r gwynt yn codi unwaith eto," meddai ar Dros Frecwast, "a hwnnw ydy'r drwg".

"Mae'r job yn un andros o anodd i'r diffoddwyr tân drio cadw ar ben petha'."

Esboniodd fod y mynydd yn rhy serth a pheryglus i ddiffoddwyr frwydro'r fflamau'n uchel i fyny, felly "maen nhw just yn gorfod disgwyl i'r tân gyrraedd nhw a wedyn diffodd y tân".

Dywedodd fod y tai ochr arall i'r lôn o'i gartref "ynghanol y mwg - o'dd hi'n ofnadwy".

'Pawb yn poeni'

Er bod y sefyllfa wedi gwella dros nos dywedodd un ffermwr lleol, Gareth Wyn Jones "mae dal yn bryderus, mae pawb yn poeni - mae'r tanau yma'n gallu ailgychwyn".

Esboniodd mai dyma'r pedwerydd tân yn yr ardal eleni "ond hwn ydy'r un mwyaf dwi 'di gweld ers talwm".

"O'dd o'n dychryn rhywun ddoe - mor sydyn 'naeth y tân symud."

Pwysleisiodd fod angen cael y "neges allan yno i bobl fod yn ofalus os ydyn nhw'n mynd allan i gefn gwlad adeg yma'r flwyddyn".

Disgrifiad,

Bu Llinos Evans o Wasanaeth Tân y Gogledd yn rhoi diweddariad fore Llun

Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Tân eu bod wedi cael eu galw am 02:15 fore Sul ac y bu rhaid iddyn nhw ddelio "â nifer sylweddol o ddigwyddiadau difrifol ar draws gogledd Cymru".

"Bu ein diffoddwyr tân yn gweithio drwy'r nos, gan ddechrau ddoe yn y bore, ac maen nhw'n parhau ar y safle heddiw," meddai fore Llun.

"Mae tua 200 erw o dir wedi'u heffeithio."

Esboniodd fod y tân tua 1.6 cilomedr o hyd ar ei waethaf, "felly roedd o'n ddigwyddiad mawr a sylweddol iawn i ni".

"Oherwydd y tirwedd anodd iawn ar Fynydd y Dref, mae'n anodd iawn i ni gael ein timau yno. 'Da ni'n disgwyl bod yno am beth amser.

"Wrth i'r tymheredd godi yn yr ardal y bore 'ma ac yn ystod y dydd, 'da ni'n disgwyl gweld y tân yn dwysáu eto, ond mae ein timau wedi bod yn cynllunio drwy'r nos i baratoi ar gyfer hynny."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.