Tri o blant wedi'u hanafu yn dilyn digwyddiad yng Nghasnewydd

Cafodd Heddlu Gwent eu galw i adroddiad o ymosodiad mewn coetir ger Graham Bell Close am 18:45 ddydd Gwener
- Cyhoeddwyd
Mae tri o blant yn eu harddegau wedi cael eu hanafau yn dilyn digwyddiad yng Nghasnewydd.
Cafodd Heddlu Gwent eu galw i adroddiad o ymosodiad mewn coetir ger Graham Bell Close am 18:45 ddydd Gwener.
Dywedodd y llu eu bod wedi derbyn adroddiad o dri dyn, gydag un yn cario gwn aer, yn mynd at grŵp o blant - un ferch 14 oed a dau fachgen 14 a 15 oed - yn y coetir y tu ôl i'r stryd.
Aeth y bachgen 14 oed i'r ysbyty i gael triniaeth am anafiadau a oedd yn gyson ag ymosodiad corfforol.
Roedd gan y tri o blant man anafiadau a oedd yn gyson â chael eu taro gan belenni aer, ychwanegodd yr heddlu.
Mae Heddlu Gwent yn apelio ar bobl sydd ag unrhyw wybodaeth o'r digwyddiad i gysylltu â nhw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.