| Sefydlon nhw gysylltiadau cyfeillgar â'r Indiaid lleol, heb ladd na chaethiwo'r un ohonynt. Daeth yr unig wrthdaro ym 1883 pan laddwyd tri Chymro ifanc ar daith hela gan Indiaid a gredai mai aelodau Byddin yr Ariannin oeddynt. Ar y pryd roedd y Fyddin yn canlyn ei pholisi difodi "Concwest yr Anialwch" yn erbyn yr Indiaid. Chymerodd y Cymry ddim rhan yn y fath bolisïau, ac yn aml iawn gweithredon nhw fel eiriolwyr ar ran yr Indiaid yn erbyn y llywodraeth yn Buenos Aires. Canolbwyntion nhw ar adeiladu eu hiwtopia eu hunain: Cymraeg oedd iaith yr ysgolion, eu capeli niferus a'u llywodraeth leol eu hunain, a dyma'r gymuned gyntaf yn y byd i roi'r un hawliau pleidleisio i ddynion a merched. Wedi tyfu'n rhy fawr i'r tir ar gael yn y dyffryn, roedden nhw wedi sefydlu cangen bellach yn yr Andes.
Ond roedd hi'n rhy dda i bara. Dim ots pa mor ddelfrydyddol oedd breuddwyd y gwladfawyr o ryddid, doedd eu cymuned byth yn mynd i dderbyn ymreolaeth mewn gwirionedd oddi wrth lywodraeth ehangol yr Ariannin, llywodraeth a oedd eisiau atgyfnerthu ei rheolaeth ar yr ardal. Patagonia: Cymru Fach 8,000 o filltiroedd i ffwrdd Erbyn troad yr 20fed ganrif, wedi i'r Cymry sefydlu presenoldeb Ewropeaidd ym Mhatagonia, daeth llywodraeth yr Ariannin i mewn, dweud muchos gracias, cymryd rheolaeth uniongyrchol a diffodd ymreolaeth lywodraethol ac addysgol y Wladfa. Yn eironig, digwyddodd hyn wrth i'r iaith Gymraeg gael ei chaniatáu, yn amharod iawn, yn y system addysg yn ôl yng Nghymru lle mae chwarter o'r holl blant bellach yn mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg. Yn y Wladfa, golygodd rheolaeth uniongyrchol ddiwedd ar y Gymraeg mewn llywodraeth leol ac yn yr ysgolion, a dechrau llif o ymfudo Sbaenaidd ac Ewropeaidd eraill a arweiniodd at y Cymry'n bod yn lleiafrif yn y wladfa roedden nhw wedi'i sefydlu. Dylai'r freuddwyd wedi dod i ben ar y pwynt yna, gyda'r Cymry'n cael eu cymhathu ymhen cenhedlaeth. Er gwaethaf pob disgwyl, parhaodd. Sawl cenhedlaeth ar ôl yr ymfudwyr cyntaf, gellir clywed yr iaith Gymraeg o hyd ym Mhatagonia. Ymlaen ...
 |