A phan ddechreuodd ddangos arwyddion o ddirywiad difrifol, yn ystod degawdau olaf yr ugeinfed ganrif, yn annisgwyl iawn cafodd ei adfywio. Oherwydd teithiau awyrennau rhatach aeth cysylltu â Chymru'n haws. Dechreuodd llawer mwy o bobl o Gymru ymweld â'r lle. Cymerwyd camau i gefnogi'r iaith yn yr hunig gadarnle tu allan i Gymru.
Ym 1996 dechreuodd y Swyddfa Gymreig raglen, sy'n parhau o dan y Cynulliad Cenedlaethol, lle mae grwpiau o athrawon yn treulio blwyddyn yn y Wladfa'n dysgu'r iaith i'r bobl. Mae rhyw 700 o bobl wedi cofrestru ar hyn o bryd mewn dosbarthiadau. Mae nifer syfrdanol yn mynd yn rhugl. Mae prosiect rhyngrwyd y Cyngor Prydeinig yn cadw'r grwpiau o ddysgwyr mewn cysylltiad â Chymry Cymraeg yn ôl yn yr henwlad. Mae technoleg yr 21ain ganrif yn cynnal delfryd y 19eg ganrif .
Y freuddwyd yn parhau ar ôl 150 o flynyddoedd
Aeth Ann-Marie Brierly i'r Wladfa fel athrawes yn 2001. Un o'i disgyblion oedd Fabio Lewis, yr oedd ei hen dad-cu, Lewis Davies, wedi dod draw ar y Mimosa.
Yn fuan iawn, roedd perthynas Fabio â hen wlad ei dadau wedi cyrraedd lefel annisgwyl, a phriododd ef ac Ann-Marie yn ei phentref yn Ne Cymru yn Haf 2003.
"Tybed beth fyddai fy hen dad-cu a mam-gu wedi meddwl o wybod bod rhan fechan ohonyn nhw wedi dod yn ôl i Gymru i wneud cartref yma," medd Fabio.
Nawr mae Fabio ac Ann-Marie yn trefnu teithiau yn y Wladfa ar gyfer y niferoedd cynyddol o bobl o Gymru sy'n gwneud y daith 8,000 o filltiroedd.
Gall yr ymwelwyr hynny deithio'r cymunedau ag enwau Cymreig fel Trelew, Trevelin, Puerto Madryn neu hyd yn oed bentref Fabio, Dolavon. Maen nhw'n gallu cerdded strydoedd wedi'u henwi ar ôl "Miguel de Jones" (Sbaeneg am enw'r sylfaenydd, Michael D Jones), a gweld cofgolofnau i sylfaenwyr y Wladfa.
Gall ymwelwyr fynd i wasanaeth yn un o'r capeli Cymraeg, cael blas ar y te a'r bara brith yn un o'r tai te Cymraeg niferus, crwydro o gwmpas cylch yr Orsedd yn Gaiman, neu fynychu un o'r eisteddfodau niferus - bellach yn Sbaeneg ac yn Gymraeg - sy'n ffynnu o hyd.
Ac os ydyn nhw'n siarad 'iaith y nefoedd', gallen nhw dreulio amser gydag un o'r bobl helaeth sy'n siarad y Gymraeg o hyd yn y gornel hon o Dde America, lle profodd breuddwydion a chariad pobl at eu diwylliant a'u crefydd i fod yn drech nag anialwch.
Nôl i'r dechrau