| Fel cenedlaetholwr Cymreig cynnar, hybodd yn frwd y weledigaeth o Gymru Gymraeg, anghydffurfiol, rydd ym Mhatagonia. Roedd e'n gwybod bod arolygon Prydeinig wedi dynodi Patagonia yn anialwch na ellid byth cynnal pobl. Ond, gyda hunanfeddiant sbin ddoctor, lliwiodd ef a'i gyd ddelfrydwr Lewis Jones - a wnaeth ymfudo - dros y ffaith yma, a chyflwynon nhw ddelwedd llawer mwy deniadol i'r darpar ymfudwyr. Erbyn Mai 1865, daethpwyd o hyd i ddigon o arloeswyr er mwyn i'r Mimosa hwylio. Y Bala oedd cartref y prosiect, ac mae'n cynnal dathliad bob blwyddyn - 'Gŵyl y Glaniad' - i nodi dyddiad glaniad cyntaf yr ymfudwyr ar 28ain Gorffennaf.
Serch hynny, doedd y prosiect hwn ddim yn gyfyngedig i ardaloedd gwledig yn unig, gan fod llawer o'r arloeswyr wedi dod o ardaloedd diwydiannol newydd cymoedd De Cymru, a phan lanion nhw ym Mhorth Madryn, ar lannau'r Iwerydd yn yr Ariannin, gwelon nhw fod eu sgiliau, fel dynion rheilffyrdd neu lowyr, yn hollol ddiwerth yn yr anialwch. Prin y gwnaethon nhw oroesi. Bron â newynu ar adegau, cawson nhw eu hachub weithiau gan lywodraeth yr Ariannin. Ond dalion nhw ati a llwyddon nhw gartrefu yn nyffryn Chubut, lle torrodd afon sianel gul drwodd i'r anialwch o'r Andes. Penderfynodd yr ymfudwyr roi'r enw Camwy i'r afon.
Ymlaen ...
 |