Episode details

Available for over a year
Gwestai Beti George yw'r pêl-droediwr Lili Jones o Wrecsam. Fe dreuliodd 4 tymor yn chwarae i Everton gan ddechrau yn 12 mlwydd oed, yna fe ymunodd a thîm merched Wrecsam ble mae hi'n byw ac yn paratoi i chwarae yn Ewrop am y tro cyntaf. Fe’i derbyniwyd i’r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam y llynedd, gan gael ei hanrhydeddu yn ddim ond 19 oed. Roedd y seremoni’n cydnabod ei chyfraniad arbennig at bêl-droed merched yng Nghymru, ynghyd â’i hymrwymiad i hyrwyddo’r Gymraeg. Mae hi hefyd yn ymddangos yn y gyfres ffilm boblogaidd 'Welcome to Wrexham' gyda dau actor Hollywood, Ryan Reynolds a Rob McElhenney. Mae Lili'n sôn am dderbyn e-bost gan yr Eisteddfod, ymateb y teulu a'r diwrnod arbennig yma yn ystod mis Awst 2025.
Programme Website