Episode details

Available for 363 days
Fydd 'na ddim pedwerydd dyrchafiad yn olynol i Wrecsam ond roedd hi'n ddychrynllyd o agos. Dau bwynt oedd y gwahaniaeth rhyngddyn nhw a'r safleoedd ail-gylfe yn y pendraw ar ôl gorffen y tymor gyda gêm gyfartal yn erbyn Middlesbrough ar y Cae Ras. Ond mi gafodd y Dreigiau ddau gyfle mawr i ennill y gêm a chipio'r chweched safle oddi wrth Hull City. Be fydd y rheolwr Phil Parkinson wedi ei ddysgu o'r tymor? Sut all o wella'r garfan? Oes angen iddo fod mwy hyblyg yn ei arddull chwarae? Emosiynau gwbl wahanol oedd i Gasnewydd wrth guro Barrow i osgoi disgyn o'r Ail Adran. Cymysgedd o orfoledd a rhyddhad oedd hi, wrth i'r clwb ddod yn anghyfforddus o agos unwaith eto i golli eu statws yn y gynghrair bêl-droed. Y cwestiwn mawr ydi, beth sydd angen newid er mwyn sicrhau bod hyn ddim yn digwydd eto? Ac wrth gwrs, gan fod y tymor wedi dod i ben, mae'n rhaid coroni pencampwr proffwydo Y Coridor Ansicrwydd 2025-26...
Programme Website