Episode details

Available for over a year
Cwthwm Ar y clos, dan gysgod ei changhennau bu gweini medd o wyddfid pêr a gwledd o fes ac aeron coch. Chwiliem am lwybrau cudd y llyg a chware cwato fel milwyr bach cyn rhannu dagrau a chydio dwylo. Ein gwawr a’n machlud; ein ffarwel a’n dychwelyd. Gwarchodwr ffin a rhos. Ond roedd twyll yn yr osgo. Llechai clefyd yn ddwfn dan y rhisgl. Â’r frân yn plymio i chwiban storm a chleddyfau’n brwydro hyrddiadau’r gwynt bu cwymp rhwng sgrech y tegell a’r arllwys te a bwlch ar y clos yn wacter trwm. Heddiw, mae’r drws ar glo a’r llenni ar gau a staen y te ar fwrdd yn aros. ‘m ond y gwynt sy’n curo’th ddrws a neb i’w herio. Rhiannon Iwerydd
Programme Website