
Y Brodyr Darvell - Carcharu ar gam
Y cyn-farnwr Nic Parry sy’n cymryd cipolwg ar rai o achosion troseddol fwyaf cymhleth a dadleuol Cymru, gan graffu ar yr hanes, y gyfraith a’r cwestiynau sy’n parhau.
Cyfres sy’n craffu ar rai o achosion troseddol fwyaf enwog, cymhleth a dadleuol Cymru. Y cyn-farnwr Nic Parry sy’n cael cwmni’r bobol oedd yn rhan o’r achosion ac sydd yn cofio’r effaith ddofn gafwyd ar gymunedau Cymru, ac yn trafod y penderfyniadau allweddol a’r digwyddiadau dramatig newidiodd fyd yr unigolion ynghlwm â’r achosion.
Wrth edrych ar elfennau cyfreithiol, datblygiadau dramatig a’r cwestiynau sy’n parhau hyd heddiw, mae’r gyfres yn gofyn: sut allai hyn ddigwydd? Pam y digwyddodd hynny? A sut y daethpwyd i’r penderfyniadau a gafodd eu gwneud?
Yn y bennod hon, gohebydd arbennig BBC Radio Cymru, Garry Owen sydd yn ail-fyw hanes llofruddiaeth Sandra Phillips yn Abertawe yn 1985. Achos a ddaeth yn un o anghyfiawnderau mwyaf cofiadwy Cymru. Fe glywn sut y carcharwyd dau frawd bregus ar gam, ac am yr ymgyrch am gyfiawnder.
Cynhyrchiad Meicro Cyf ar gyfer BBC Radio Cymru
Rhagor o benodau
Dan Sylw
.
Podlediad
![]()
Lleisiau Cymru
Podlediadau Cymraeg o bob math, yn llawn lleisiau amrywiol a diddorol!
