Dathlu bywyd a gwaith yr artist Iwan Gwyn Parry
Manon Steffan Ros a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth yng Nghymru a thu hwnt. A look at the arts scene in Wales and beyond with Manon Steffan Ros.
Rhaglen arbennig yn canolbwyntio ar un artist dylanwadol a thalentog. Ddiwedd 2025 bu farw'r artist Iwan Gwyn Parry yn 54 oed. Roedd yna nifer o deyrngedau iddo pan fu farw a llawer yn ei ddisgrifio fel person ac arlunydd rhyfeddol.
Yn enedigol o Gaergybi, mi oedd Iwan yn adnabyddus am ei ddarluniau trawiadol o'r môr a'r arfordir, ac mi fuodd o’n arddangos ei waith mewn orielau yng Nghymru, Llundain, Dulyn a thu hwnt. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mi fuodd Iwan yn sgwrsio’n gyhoeddus am fyw efo anhwylderau bwyta.
Mae yna ddathliad o weithiau Iwan yn cael eu harddangos yn Oriel Ffin y Parc, Llandudno, ar hyn o bryd - gweithiau sy'n amlygu ei ysbryd a’i weledigaeth artistig. Yn ystod yr awr mi fyddwn ni’n ymweld â’r arddaganosfa yma yng nghwmni dau artist i werthfawrogi ei dalent hynod. Yn ogystal â hyn cawn ddathlu ei fywyd a'i waith yng nghwmni aelodau o'i deulu a'i ffrindiau.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Clip
![]()
Lisa Eurgain yn cofio Iwan Gwyn Parry
Hyd: 02:20
Darllediadau
- Dydd Sul13:00BBC Radio Cymru
- Ddoe18:00BBC Radio Cymru

