Gorlenwi carchardai Cymru a phrinder staff yn 'tanseilio diogelwch'

CarcharorionFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r adroddiad yn rhybuddio bod gorlenwi a phrinder staff yn rhoi carchardai Cymru dan bwysau

  • Cyhoeddwyd

Mae gorlenwi a diffyg staff yng ngharchardai Cymru yn "tanseilio diogelwch staff a charcharorion", meddai aelodau pwyllgor Seneddol.

Mae "pryderon difrifol" wedi eu codi ynghylch cyflwr carchardai Cymru mewn adroddiad gan Bwyllgor Materion Cymreig San Steffan.

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Ruth Jones AS, fod y system "yn methu'r rhai hynny mae'r gwasanaeth i fod i'w helpu yn rhy aml", a bod y problemau'n cael "goblygiadau difrifol i ddiogelwch a chanlyniadau adsefydlu" carcharorion.

Mae casgliadau'r adroddiad trawsbleidiol yn datgan bod lleihau'r pwysau ar garchardai yn dibynnu "nid yn unig ar fwy o gapasiti ond hefyd ar leihau dibyniaeth ar garcharu, yr angen i gadw staff yn y gwasanaeth, a sicrhau bod carcharorion yn cael eu carcharu mor agos â phosib i'w cartrefi".

'Mae'r oedi hyn yn annerbyniol'

Tynnodd ASau sylw at bwysigrwydd cyrff goruchwylio, sef y Cyrff Monitro Annibynnol, ond yn ôl yr aelodau mae cyfyngiadau ar adnoddau wedi cael effaith negyddol ar waith y cyrff hynny.

Mae'r aelodau seneddol hefyd yn galw am adolygiad i archwilio pam fod y gyfradd garcharu yng Nghymru yn uchel - o gymharu â Lloegr.

Mae'r adroddiad hefyd yn galw ar Lywodraeth y DU i gadarnhau'r cynlluniau ar gyfer canolfan breswyl i fenywod yn Abertawe.

Nid oes carchar i fenywod yng Nghymru, ac yn 2022 cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai'r ganolfan breswyl gyntaf i fenywod yn cael ei lleoli yn Abertawe, gyda'r bwriad o'i hagor yn 2024.

Mae'r llywodraeth bresennol yn cynnal adolygiad gwariant.

Ond yn ôl yr aelodau seneddol, "mae'r oedi hyn yn annerbyniol, yn ogystal â'r diffyg eglurder ynghylch sut fydd y ganolfan yn gweithredu a phwy fydd yn cael mynd yno".

Weiren bigog ar giât carcharFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r pwyllgor yn galw am gamau i leihau'r pwysau ar garchardai Cymru

Ar y mater ynghylch a ddylid datganoli mwy o bwerau cyfiawnder i Lywodraeth Cymru, mae'r adroddiad yn argymell y dylai Llywodraeth y DU barhau i "flaenoriaethu sicrhau bod sefydlogrwydd o fewn y drefn carchardai a'r gwasanaeth prawf".

Ond mae hefyd yn dweud y dylid "cydbwyso hyn gyda chyflawni un o addewidion ei maniffesto, sef archwilio ac ystyried datganoli'r gwasanaeth prawf a chyfiawnder ieuenctid".

Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd Llywodraeth Cymru: "Diolchwn i'r pwyllgor am eu hadroddiad sy'n cynnwys argymhellion pwysig ac rydym yn bwriadu ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar y materion hyn mewn modd adeiladol.

"Mae ein safbwynt yn glir - dylid datganoli cyfiawnder yn llawn i Gymru, fel y gwneir yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

"Dim ond trwy ddatganoli y gallwn ddarparu gwasanaethau mewn ffordd gydlynedig ac effeithlon sy'n darparu i bobl Cymru."

'Tanseilio effeithlonrwydd y system'

Wrth siarad ar ran ASau Plaid Cymru Ben Lake a Llinos Medi, sydd hefyd yn aelodau o'r Pwyllgor Materion Cymreig, dywedodd yr AS Ann Davies fod yr adroddiad yn "tynnu sylw at yr heriau mawr sy'n wynebu system gyfiawnder Cymru, o garchardai gorlawn a phrinder staff i ddiffyg cyfleusterau addas i fenywod".

"Mae'r methiannau hyn yn tanseilio effeithlonrwydd y system ac yn gwanhau ymdrechion i adsefydlu troseddwyr a lleihau aildroseddu," meddai.

Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder eu bod yn trwsio "system garchardai mewn argyfwng" gyda gwariant o £7bn i greu cannoedd o leoedd carchar ychwanegol yng Nghymru erbyn 2031.

"Mae'r setliad datganoli presennol yn sicrhau bod pobl Cymru yn elwa o adnoddau sy'n cael eu rhannu o system gyfiawnder ehangach, ac mae cyllid ar gyfer rhai mentrau cyfiawnder ieuenctid yn cael ei ddatganoli," meddai llefarydd.

"Ein ffocws yw parhau i drwsio'r system gyfiawnder, gan gynnwys gwell cydlynu ar gyfer cymorth adsefydlu i leihau aildroseddu a diwallu anghenion cymunedau Cymru."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.