'Ambell' newid i ddod wedi ymateb 'positif' i drefniadau'r Eisteddfod

Dywedodd Sian Lewis bod ymateb "calonogol" i'r newidiadau eleni
- Cyhoeddwyd
Bydd "ambell tweak" i drefniadau Eisteddfod yr Urdd y flwyddyn nesaf yn dilyn adborth ar newidiadau eleni, yn ôl prif weithredwr yr Urdd.
Dywedodd Sian Lewis fod yr Urdd wedi bod yn "gwneud llawer iawn o waith gwrando" ar y maes drwy holiaduron a sgyrsiau gydag athrawon, rhieni a phobl ifanc.
Roedd newidiadau i drefn y cystadlu ar Ynys Môn eleni, wrth i'r ŵyl gael ei chynnal am saith diwrnod, ac fe gafodd cystadlaethau newydd eu cyflwyno hefyd.
Dywedodd Ms Lewis y bydd trefniadau'r flwyddyn nesaf yn cael eu cadarnhau erbyn mis Medi ar ôl ystyried yr adborth.
'Calonogol dros ben'
Yn siarad ar Dros Frecwast, dywedodd Sian Lewis mai "arbrawf" oedd trefn newydd yr Eisteddfod saith diwrnod, a bod yr Urdd yn "barod i wrando".
"Mi fydd yna ambell tweak yn amlwg oherwydd arbrawf oedd hwn," meddai.
Dywedodd hefyd y bydd yr holiaduron yn aros ar agor am "ychydig wythnosau" ar ôl yr Eisteddfod er mwyn rhoi cyfle i fwy o bobl gyfrannu barn.
"Mae eisiau i ni barhau i drafod," meddai.
Ychwanegodd fod yr Urdd wedi bod yn gwrando "drwy gydol yr wythnos ar safbwyntiau athrawon, safbwyntiau pobl ifanc a rhieni".
Trefn cystadlaethau 19-25 oed yr Urdd yn parhau i godi cwestiynau
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Rheolau newydd Eisteddfod yr Urdd yn 'rhwystredig iawn' i fyfyrwyr
- Cyhoeddwyd26 Chwefror
'Cynnwrf' Casnewydd wrth baratoi am Eisteddfod yr Urdd am y tro cyntaf
- Cyhoeddwyd11 awr yn ôl
Dywedodd mai nod hynny oedd sicrhau "bod ni yn 'neud unrhyw addasiadau sydd yn angenrheidiol i sicrhau bod yr amserlen yn llifo i ddisgwyliadau pawb".
"Galla i ddweud bod yr ymateb ni wedi cael hyd yma wedi bod yn galonogol dros ben," meddai.
Bwriad newid yr ŵyl i fod yn saith diwrnod oedd er mwyn ehangu'r cystadlaethau ar gyfer dysgwyr ac ysgolion anghenion ychwanegol.
"Mae'r ymatebion wedi bod yn bositif, a nifer yn gweld y peth fel rhywbeth maen nhw eisiau gweld yn para," meddai Ms Lewis.
Mewn cyfweliad arall brynhawn Gwener, dywedodd ei bod yn "braf gweld mwy o gystadleuwyr yma yng ngogledd Cymru nag erioed o'r blaen" o ganlyniad estyn y brifwyl.
"Parhau i dyfu wnawn ni, parhau i wrando ar leisiau pobl ifanc a sicrhau bod yr Urdd yn agor ymhellach i fwy o gynulleidfaoedd."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.