Tân gwaith dur Tata 'wedi achosi difrod sylweddol i linell gynhyrchu allweddol'

- Cyhoeddwyd
Mae pobl sy'n byw ger safle gwaith dur Tata ym Mhort Talbot wedi cael eu cynghori i aros dan do ar ôl i dân gynnau yno.
Dechreuodd y tân ar un o linellau prosesu'r safle tua 20:00 nos Fercher, gyda staff wedi cael eu symud oddi yno yn ddiogel.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru nos Iau eu bod yn parhau ar y safle a bod y tân dan reolaeth.
Aeth llefarydd ymlaen i ddweud nad ydyn nhw wedi asesu achos na maint y difrod eto.
Yn ôl Rapid Relief Team UK (RRT) - elusen sy'n rhoi cymorth i'r gwasanaethau brys mewn digwyddiadau mawr - fe wnaeth "tua 100 o ymatebwyr wynebu noson hynod heriol a pheryglus" wrth ymateb i'r digwyddiad.
Dywedodd undeb Unite fod y tân "wedi achosi difrod sylweddol i linell gynhyrchu allweddol", gan alw am roi mesurau mewn lle i amddiffyn swyddi tra y bydd y gwaith o adfer y safle yn cael ei gwblhau.
Mae trigolion wedi cael eu cynghori i gadw drysau a ffenestri ar gau, tra bod gyrwyr yn cael eu hannog i osgoi'r ardal os yn bosibl.

Roedd mwg trwchus i'w weld yn codi o'r safle, ac yn ôl Kellie Evans oedd yn gyrru heibio, roedd yr olygfa yn "apocalyptaidd".
Dywedodd nad oedd hi'n gallu gweld y fflamau "oherwydd bod yr awyr mor ddu".
Dywedodd Tata Steel fod yr holl weithwyr wedi gadael y safle'n ddiogel.
Ychwanegodd y cwmni nad oedd y tân yn gysylltiedig â dymchwel hen ddaliwr nwy gwag ar y safle nos Fercher.
Diolchodd Tata Steel i staff y safle a'r gwasanaethau brys am eu "gweithredu prydlon a phroffesiynol".

Roedd camerâu traffig yn dangos fore Iau bod yr M4 ger Port Talbot yn parhau ar agor ond bod traffig trwm arni.
Dywedodd RRT UK fod gwirfoddolwyr wedi cyrraedd y safle o fewn 90 munud i'r alwad gychwynnol ac wedi gweini 125 o brydau poeth yn ystod y nos i gefnogi'r criwiau oedd yn gweithio yno.
Mewn datganiad brynhawn Iau, dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod yn rhoi cefnogaeth a chyngor i'r gwasanaeth tân wrth iddyn nhw ddelio â'r sefyllfa ym Mhort Talbot.
Dywedodd llefarydd: "Mae ein swyddogion wedi bod i'r safle ac yn gweithio'n agos gyda'r gwasanaethau brys a phartneriaid i roi cyngor ar gamau i leihau unrhyw effeithiau amgylcheddol posib ar ddyfrffosydd cyfagos ac ansawdd aer."