Cyngor Gwynedd wedi pleidleisio i gau ysgol leiaf y sir

Dau ddisgybl sy'n mynychu Ysgol Y Garreg, ac mae'r ddau yn mynd i'r ysgol uwchradd eleni
- Cyhoeddwyd
Mae aelodau cabinet cyngor Gwynedd wedi pleidleisio yn derfynol i gau Ysgol y Garreg yn Llanfrothen.
Dim ond dau ddisgybl sy'n mynychu Ysgol Y Garreg yn Llanfrothen, a bydd y ddau yn mynd i'r ysgol uwchradd eleni.
Fe wnaeth y cabinet eisoes gyhoeddi fis Chwefror mai eu bwriad oedd cau'r ysgol dros yr haf.
Ond roedd yn rhaid cyhoeddi hysbysiad statudol 28 diwrnod i bobl gael lleisio eu barn cyn y byddai modd cadarnhau hynny.
Bydd yr Ysgol yn cau yn swyddogol ar 31 Awst eleni.
Bydd disgyblion y dalgylch yn mynychu Ysgol Cefn Coch ym Mhenrhyndeudraeth - ychydig dros ddwy filltir i ffwrdd.
Cyngor Gwynedd yn bwrw 'mlaen gyda chau ysgol â dau ddisgybl
- Cyhoeddwyd11 Chwefror
Trafod cau ysgol gynradd sydd â dau ddisgybl yng Ngwynedd
- Cyhoeddwyd4 Chwefror
Yn ôl dogfennau Cyngor Gwynedd, roedd 22 o ddisgyblion yn mynychu'r ysgol yn 2021 ac 17 o ddisgyblion yn Ionawr 2025, ond mae niferoedd wedi gostwng yn sylweddol ers hynny.
Ar hyn o bryd, mae pennaeth dros dro yn rhannu dyletswyddau rhwng Ysgol Y Garreg ac ysgol arall drwy drefniant anffurfiol.
Mae un athro a chymhorthydd rhan amser yn gweithio yn yr ysgol.
Cyfartaledd cost fesul dysgwr yn Ysgol Y Garreg yw £14,621, o'i gymharu â'r cyfartaledd sirol o £5,780.
Mae'r ddau ddisgybl sy'n mynychu'r ysgol ym mlwyddyn 6, sy'n golygu na fyddai unrhyw blentyn ar y gofrestr o fis Medi ymlaen beth bynnag.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.