Cerbyd ar dân mewn garej yn cau'r A487 ym Mhenrhyndeudraeth

Disgrifiad,

Cerbyd ar dân mewn garej ym Mhenrhyndeudraeth yn cau'r A487

  • Cyhoeddwyd

Mae diffoddwyr wedi bod yn delio â thân mewn garej ym Mhenrhyndeudraeth, Gwynedd ddydd Iau.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i'r garej am 12:49 ble roedd cerbyd ar dân.

Cafodd tri chriw eu hanfon i'r digwyddiad a bu rhaid i ran o'r A487 gael ei chau i'r ddau gyfeiriad am gyfnod.

Gweddillion y cerbydFfynhonnell y llun, Gwilym Phillips
Gweddillion y cerbydFfynhonnell y llun, Gwilym Phillips

Bellach mae'r tân dan reolaeth a'r ffordd wedi ailagor.

Dywedodd tyst mai cartref modur oedd ar dân, a'i fod wedi achosi rhywfaint o ddifrod i adeilad y garej hefyd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.