Gardd goffa'r amlosgfa 'yn rhywbeth positif wedi i ni golli ein merch'

Bu farw merch Llinos Eames Jones yn 2000 a dywed ei bod yn meddwl amdani bob dydd
- Cyhoeddwyd
Wedi iddi golli ei merch fach 26 mlynedd yn ôl, dywed mam o'r Bontnewydd ger Caernarfon bod ei marwolaeth, er y tristwch, wedi'i gorfodi i wneud rhywbeth positif.
Ers colli Mari Lois, mae Llinos Eames Jones wedi codi arian i amrywiol ymgyrchoedd a dros y penwythnos fe agorodd gardd goffa Amlosgfa Bangor - rhywbeth y mae hi ac aelodau SANDS Gwynedd "mor falch ohoni".
"O'dd o'n sioc fawr pan gyrhaeddodd Mari yn farw-anedig. Hi oedd ein pedwerydd plentyn ni a phan ddigwyddodd hyn roedd y tri arall yn eu harddegau.
"Ar ôl ei cholli 'nathon ni benderfynu bo ni'n 'neud pob dim positif.
"I ddechrau 'nathon ni hel arian ar gyfer 'portable baby scanner' i ward geni yn Ysbyty Gwynedd - mae o bellach yn Lesotho a dros y penwythnos fe agorodd yr ardd goffa yn Amlosgfa Bangor - lle i rieni gofio am y plant na chawson nhw eu cwmni."

Yr ardd goffa "sy'n llawn lliw"
"Dwi efo SANDS Gwynedd ers dros 25 mlynedd. Does neb yn gwybod onibai eu bod wedi gwisgo'r esgid eu hunain be'n union 'dan ni'n mynd drwyddo fo," ychwanegodd Llinos Eames Jones.
"Gweledigaeth y ddiweddar Jennifer Cashmore Thorley yw gardd goffa Cwsg Babi Cwsg a braint i mi oedd ei helpu a gwireddu ei breuddwyd.
"Mae'r ardd yn rhywle tawel, agos i natur a lle i rieni alw a jyst meddwl. Mae 'na bethau neis yno - wiwerod, cwningod ac mae clywed yr adar yn canu yn rhoi rhyw dawelwch meddwl a thawelwch ysbrydol i chi.
"'Sgynnon ni ddim atgofion o'n babis achos dydyn nhw erioed wedi cael byw - 'dan ni'n creu'r atgofion wrth i ni greu y pethau positif."
'Colli oes efo'r babi yna'
"Byddai Mari Lois yn 26 rwan. 'Dan ni'n meddwl amdani bob dydd - dim jyst colli babi ydi o. 'Dach chi'n colli oes efo'r babi yna.
"Dwi'n teimlo bod hi'n pwsho fi 'mlaen. Mae hi'n deud 'Dos Mam, dal i 'neud. Paid â rhoi fyny'.
"Mae'r cofio yn gallu bod yn anodd. Bob tro dwi'n clywed am rywun yn colli babi dwi'n rhoi fy hun yn y sefyllfa yna - uniaethu efo nhw.
"Mae'r ymateb wedi bod mor positif ac mae'n neis cael rhywle o'r math yma."

"Mae'r ardd yn rhywle i rywun cael tawelwch meddwl ac ysbrydol," medd Llinos Eames Jones
Mae'r Parchedig Wynne Roberts sy'n gaplan ysbytai Betsi Cadwaladr ers dros 30 mlynedd hefyd yn gweld gwerth mewn gardd o'r fath.
"Dydy'r galar ddim yn gadael rhywun ar ôl 'chydig o fisoedd - mae o yna ar hyd taith bywyd ac felly mae'n hyfryd cael rhywle fel hyn i ddod i gofio.
"Mae gwasnaethau cofio wedi bod yn cael eu cynnal unwaith y flwyddyn ym Mangor, Llanelwy a Wrecsam. Mae cannoedd yn dod i'r rheiny - rhai wedi colli babi yn ddiweddar ond rhai hanner can mlynedd yn ôl.
"Mae cael lle distaw fel yr ardd goffa yn wych. Er y tristwch a bod yr ardd ger amlosgfa mae 'na lawer o fywyd yno - a braf i rai, efallai, cael gardd i ffwrdd o'r ysbyty. Ry'n ni'n falch ohoni."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.