Democratiaid Rhyddfrydol i lansio maniffesto etholiad y Senedd

Cafodd Jane Dodds ei hethol i Senedd Cymru am y tro cyntaf yn 2021
- Cyhoeddwyd
Bydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn lansio eu maniffesto ar gyfer etholiad y Senedd fore Mawrth.
Mae eu harweinydd, Jane Dodds, yn addo amddiffyn y GIG trwy fuddsoddi £300m mewn gofal cymdeithasol, cymorth ychwanegol ar gyfer gofal plant a sicrhau nad oes "un geiniog" yn cael ei gwario ar annibyniaeth.
Gobaith y blaid yw y gallen nhw wella ar eu canlyniad yn 2021, pan gafodd Ms Dodds ei hethol fel yr unig Ddemocrat Rhyddfrydol.
Ar 7 Mai bydd pleidleiswyr ledled Cymru yn ethol 96 o wleidyddion i'r Senedd, i fyny o 60.
Etholiad y Senedd: Dewch i 'nabod yr arweinwyr
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Yr Arweinwyr: Jane Dodds
- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl
Dy Lais, Dy Bleidlais
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2025
Er mai dim ond un aelod sydd gan y blaid yn y Senedd, mae Jane Dodds wedi bod yn rhan o drafodaethau cyllideb gyda Llywodraeth Cymru yn y gorffennol ac yn dweud y byddai'n fodlon gwneud hynny eto.
Trwy wneud hyn mae hi wedi sicrhau gwaharddiad ar rasio milgwn, mwy o arian ar gyfer gofal plant a theithiau bws rhatach yn nhrafodaethau cyllideb 2025.
Ond, mae'r arweinydd wedi rhybuddio, na fydd hi'n cefnogi plaid sy'n gwario ceiniog ar baratoadau ar gyfer annibyniaeth i Gymru.
Byddai hynny o bosibl yn diystyru cytundeb gyda Phlaid Cymru, sy'n cystadlu yn erbyn Reform i ennill yr etholiad ac wedi addo sefydlu pwyllgor cenedlaethol - a fyddai'n costio £500,000 - i ddechrau paratoi'r achos dros annibyniaeth.
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymru am ehangu'r cynnig gofal plant am ddim i 30 awr, am 48 wythnos y flwyddyn, i bob plentyn o naw mis i bedair oed.
Mae'r blaid hefyd yn addo clirio afonydd a moroedd Cymru, gan roi cyllid ychwanegol i Gyfoeth Naturiol Cymru a gwaharddiad ar fonysau i benaethiaid cwmnïau dŵr, nes bod gollyngiadau carthffosiaeth yn dod i ben.
Mae'r blaid wedi cael brwydr anodd i aros ar y llwyfan gwleidyddol yng Nghymru dros y ddegawd ddiwethaf - gyda dim ond un AS yn cael ei ethol yn 2016.
Cafodd Ms Dodds, sy'n gyn-Aelod Seneddol yn San Steffan, ei hethol i Senedd Cymru am y tro cyntaf yn 2021 ac fe barhaodd i fod yr unig Ddemocrat Rhyddfrydol yno.
Mae hi'n dweud y gallai'r blaid ennill pum sedd - a fyddai'n ddigon i ffurfio grŵp Senedd swyddogol.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.