Refferendwm Datganoli 1979 ac Ethol Margaret Thatcher
In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash installed. Visit BBC Webwise for full instructions
Y prif ddigwyddiadau gwleidyddol yng Nghymru ym 1979.
Nodiadau Dysgu
Ystod Oedran : 11-14,14-16,16+
Pwnc : Hanes
Testun : Hanes Cymru a Lloegr 1880-1980, Cymru a Phrydain diwydiannol, Cymru a Phrydain fodern, Byd yr ugeinfed ganrif
Allweddeiriau : Datblygiad Cymru 1900-2000,Statws a chyfansoddiad, Cymru Ewrop a'r Byd, Refferendwm datganoli 1979, Diweithdra, James Callaghan, Margaret Thatcher, Etholiad Cyffredinol 1979,
Nodiadau :
CYFNOD/CYRSIAU/PYNCIAU:
CA3: Sut mae rhai unigolion a digwyddiadau'r ugeinfed ganrif wedi llunio ein byd ni heddiw. Byd yr ugeinfed ganrif.
TGAU: Datblygiad Cymru 1900-2000. Statws a chyfansoddiad.
Safon Uwch: Agweddau ar hanes Ewrop 1880-1980. Hanes Cymru a Lloegr 1880-1980. Hanes datganoli yng Nghymru.
Bagloriaeth Cymru: Cymru, Ewrop a'r Byd.
CYFLEOEDD I DDATBLYGU SGILIAU HANESYDDOL: Egluro canlyniad refferendwm datganoli 1979. Egluro pam y bu i Margaret Thatcher ennill etholiad cyffredinol 1979. Sbarduno ymholiad i arwyddocâd Margaret Thatcher fel Prif Weinidog ac fel gwleidydd yr ugeinfed ganrif. Sbarduno ymholiad i arwyddocâd y flwyddyn 1979 i hanes Cymru a Phrydain yn yr ugeinfed ganrif.
CYFLEOEDD I DDATBLYGU SGILIAU EHANGACH: Datblygu geirfa/iaith a chysyniadau hanesyddol. Ysgogi gwybodaeth a dealltwriaeth flaenorol am yr ymgyrch dros gael cynulliad i Gymru/lywodraeth Geidwadol Margaret Thatcher. Datblygu sgiliau rhifedd drwy ddadansoddi canlyniadau refferendwm 1979.
AWGRYMIADAU AR GYFER GOSOD MEINI PRAWF LLWYDDIANT: Ddylai myfyrwyr yn gallu: 1) Deall pam y gwrthododd y Cymry'r cynnig i sefydlu cynulliad ym 1979. 2) Deall pam mai Margaret Thatcher fu'n fuddugol yn etholiad cyffredinol 1979.
Hanes Cymru

Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.



