Ym mhumed raglen y gyfres, gwahoddodd Griff wylwyr i adael eu marc ar hanes trwy ddewis rhwng tri o adeiladau Cymru: Sefydliad Prichard Jones, Niwbwrch, Môn; Gweithdai Chwarel Pen yr Orsedd, Nantlle a Fferm Cwrt Pembre, Pembre, Sir Gaerfyrddin.
Dywedodd Les Jones, trefnydd grŵp cefnogwyr Pen yr Orsedd: "Rwyf wedi cyffroi'n lân o glywed y newyddion ac rydym wedi cyflawni rhywbeth gwirioneddol arwyddocaol yma. Mae'n rhywbeth arbennig tu hwnt i bentref mor fach, gyda phoblogaeth o ddim ond 200 o bobl, i fod wedi ennill y bleidlais hon. Bydd o gymorth gydag adfywio'r pentref a'r fro gyfan mewn ffordd."
Gweithdai Chwarel Pen Yr Orsedd, Nantlle
Mae'r adeiladau chwarel yma, sydd wedi eu cofrestru ar raddfa II yn cynnwys gweithdai, swyddfeydd, ysbyty ac adeiladau diwydiannol. Cawsant eu hadeiladu mewn dau gam - yn y 1860au a rhwng 1899 a 1907 - ac maent yn sefyll mewn mewn lleoliad mynyddig hynod drawiadol, gyda golygfeydd yn ymestyn i lawr at lyn Nantlle. Gweithiai 450 o ddynion yn y chwarel, ac fe'i caewyd am y tro olaf ym 1997.
Mae'r waliau a'r toeau yn eu lle, ond mae angen adfer yn llwyr du fewn yr adeiladau er mwyn creu canolfan weithdai a hyfforddiant ar gyfer trwsio, atgynhyrchu a chynhyrchu eitemau peirianyddol sy'n gysylltiedig â gwarchod treftadaeth.
Y bwriad yw bod yn ganolfan leol a darparu cyflogaeth a hyfforddiant yn un o gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru. Eleni mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri (HLF) wedi neilltuo £1.9 miliwn ar gyfer Cronfa Restoration er mwyn adfer yr adeiladau sy'n ennill. Dywedodd Jennifer Stewart, Rheolwr yr HLF yng Nghymru, heddiw: "Mae Gweithdai Chwarel Pen Yr Orsedd yn seren dreftadol sydd wrth graidd y gymuned ac rydym wrth ein boddau yn eu gweld yn mynd trwodd i'r rownd derfynol.
"Mae'r gyfres newydd hon unwaith eto'n rhoi llais i'r cyhoedd gael dweud pa adeilad ddylai dderbyn cyllid y Loteri Genedlaethol trwy'r HLF. Hoffwn annog pobl o bob cwr o Gymru i roi eu cefnogaeth i'r ymgeisydd sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol a sicrhau dyfodol iddynt trwy addo eu pleidlais."
Bydd y canlyniad yma yn golygu y bydd y gweithdai yn dod yn un o'r wyth adeilad a fydd yn cael sylw yn ystod rhaglen derfynol y gyfres a fydd yn dod yn fyw o amgueddfa awyr agored Weald & Downland yn Chichester ddydd Sul, Medi 17. Bydd pleidlais drwy Brydain gyfan yn penderfynu pa adeilad fydd yn cael bywyd newydd o ganlyniad i'r arian a fydd wedi ei godi yn ystod y gyfres.
Mae manylion ynghylch y sioeau teithiol, a gynhelir y penwythnos hwn i gyd-fynd â darlledu'r bennod, ar gael trwy fynd at bbc.co.uk/restoration.
Bydd pennod nos Wener nesaf o Restoration Village (nos Wener, Medi 8) yn dadlennu pa un o'r rhain fydd y chweched adeilad i gyrraedd y rownd derfynol. Mae'r llinellau bellach ar agor, a gall gwylwyr bleidleisio trwy ffonio 09013 600 500. Mae llinellau pleidleisio ar agor o 00.01 bob bore Gwener ar gyfer pob rhaglen a than hanner nos, dydd Mawrth.
Os nad yw'r adeilad y pleidleisioch chi drosto wedi ennill ei rownd ranbarthol, peidiwch digalonni. Mae cyfle o hyd. Bydd yr ail gyda'r nifer uchaf o bleidleisiau yn ystod y gyfres yn cael ei ddyfarnu fel yr wythfed adeilad i gyrraedd y rownd derfynol ac yn mynd rhagddo i gystadlu am gronfa wobr Restoration.
Mae gwybodaeth ynghylch yr un ar hugain o adeiladau sy'n cael sylw yn ystod y gyfres, yn ogystal â'r adeiladau rhanbarthol sy'n cyrraedd y rownd derfynol ar gael trwy'r wefan www.bbc.co.uk/restoration.
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth ynghylch cronfa dreftadaeth y Loteri ewch at www.hlf.org.uk.