Pan fu cau'r chwarel yn 1969, roedd Dic Jones - neu Dic-Doc i'w ffrindiau yn Dinorwig - yn un o'r 340 i golli ei swydd.
Dilynodd ei dad a'i tri brawd i'r chwarel yn bymtheg mlwydd oed. "Mi wnes i ddysgu sut i drin a thorri'r llechan gyda nhw', meddai Dic. "Ond roedd hi'n anoddach i mi gan fy mod i'n llaw chwith. Roedd rhaid i mi felly ddysgu naddu a hollti gyda'r ordd efo'r llaw dde.
"Dwn'i ddim sawl gwaith ges i slap dros y draddaw; slapio cefn fy llaw yn erbyn y bar haearn o dan y llechan nes roedd fy nghymalau yn gleisiau i gyd."
Wrth sgwrsio gyda Hywel Gwynfryn ar Radio Cymru, cofiodd Dic waith peryglus ei dad ar wyneb y clogwyn.
Gwrandewch ar Dic. Ar ôl i'r chwarel gau, daeth cyfnod a ffordd o fyw oedd wedi bod ers yr 1780au i ben yn Llanberis. Dim ond can mlynedd cyn iddi gau, roedd chwareli Dinorwig a Phenrhyn (ym Methesda) yn cynhyrchu mwy o lechi na gweddill chwareli'r byd gyda'i gilydd.
"Cafodd y distawrwydd od a ddaeth i Dinorwig yn Awst 1969 effaith enfawr a hirdymor ar yr ardal," meddai Julie Williams, swyddog marchnata Amgueddfa Lechi Cymru sydd wedi nodi'r pen-blwydd gydag arddangosfa o hen luniau, teithiau cerdded a drama. Dewisodd Dic gofio'i gyd-chwarelwyr, yn eu cotiau gwyn ar y clogwyn, gyda phennill.
Gwrandewch ar Dic.
 |