BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Priodas Doris, o cartref Bryn yr Eglwys, PentrefoelasHel atgofion
Mae diwrnod o hwyl a hanes yn rhan bwysig o galendr blynyddol cartref nyrsio Bryn Eglwys, Pentrefoelas, erbyn hyn. Dyma'r nyrs Carys Evans i sôn am yr arddangosfa ddiweddaraf.

"Mae'n draddodiad yng nghartref Bryn yr Eglwys, Pentrefoelas, i greu arddangosfa bob blwyddyn. Dechreuodd dair blynedd yn ôl pan ddarllenais ddarn yn y papur am hanes Cwm Tryweryn. Roedd rhai o'r preswylwyr yma yn dŵad o'r ardal gafodd ei boddi felly es i chwilio am ychydig o luniau fel testun sgwrs, ond aeth y peth yn fwy a mwy a ches gymaint o ddiddordeb, mi grëais arddangosfa fach.

"Mae'n ffordd andros o dda o gadw meddwl y bobl yma yn heini ac yn ifanc, ac mae'n rhoi syniad i ni, y gweithwyr yma, o'r profiadau amrywiol maen nhw wedi eu cael. Mae clywed eu hanes yn rhoi syniad i ni o pam eu bod nhw fel maen nhw fel pobl.

"Mae'n ffordd dda hefyd o gael y gymuned i mewn i'r cartref, a'i wneud yn rhan o'r gymuned gan y gall fod yn lle caeedig iawn.

"Y flwyddyn ddiwethaf, roedd yr arddangosfa am y gwaith arlunio a gweithgareddau eraill roedd y preswylwyr wedi bod yn rhan ohonyn nhw.

Fasiwn adeg y rhyfel Penderfynais wneud rhywbeth am yr Ail Ryfel Byd eleni gan ein bod yn dathlu 60 mlynedd ers iddo orffen. Mae tri chwarter y preswylwyr yma yn ferched ac roeddwn yn gwybod ychydig am waith merched yn ystod y rhyfel felly penderfynais ganolbwyntio ar hynny, yn arbennig ar Fyddin Tir y Merched.

"Ond wrth ymchwilio gwelais faint oedd merched wedi ei wneud yn ystod y rhyfel y tu hwnt i ffermio felly mi wnes i ehangu'r arddangosfa ychydig.

"Creais hefyd ddarn am ffasiwn - roedden nhw'n gwisgo lot o ffwr rownd eu gyddfau a llwyddais i ffeindio ffwr llwynog, snŵd (rhwyd gwallt), ffrog a nicers mawr!

Bwyd adeg y rhyfel "'Da ni hefyd wedi dod o hyd i enghreifftiau o bethau roeddent yn eu defnyddio yn y cartref fel hen dun Oxo, tun o laeth sych, hen haearn smwddio a llyfr dogn.

"Ddaru ni wahodd teuluoedd a ffrindiau'r preswylwyr i mewn am tea dance a brechdanau sbam a chael lot fawr o hwyl.

"'Da ni wedi darganfod gymaint am y preswylwyr wrth i'r arddangosfa eu hatgoffa o bethau gwahanol. Dywedodd un o'r merched yma ei bod wedi bod yn briod am ddim ond ychydig o wythnosau cyn i'w ŵr orfod mynd i Burma, a chafodd ei ladd yna. Mae 'na lot o drasiedi wedi bod yn eu bywydau a doeddent heb sôn amdano wrthym tan rŵan.

"Mae gennym ni ddynes arall yma oedd yn briod ar y dydd Mawrth, cyn i'w gŵr fynd i ffwrdd dros y môr ar y dydd Gwener a welodd hi ddim ohono am bum mlynedd wedyn - ac am bedair o'r rheina roedd hi'n meddwl ei fod o wedi cael ei ladd gan ei bod wedi cael telegram yn dweud hynny.

"Y flwyddyn nesaf, rydym am greu arddangosfa am nyrsio dros y blynyddoedd - dwi'n cychwyn ymchwilio yn barod!"

Atgofion Myfanwy...

0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy